Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(b) ac (f) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, iʼw cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Maeʼr Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”). Mae Rheoliadau 2017 yn nodiʼr gofynion rheoleiddiol syʼn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau penodol syʼn cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Y rhain yw gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau cymorth cartref.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau 2017 i nodiʼr mathau o wasanaethau rheoleiddiedig y maeʼr Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt. Mae rheoliad 4 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i reoliad 2 o Reoliadau 2017 syʼn ymdrin ag amgylchiadau pan yw person wedi ei esemptio oʼr gofyniad i gofrestru fel darparwr gwasanaeth cartref gofal. Mae rhai oʼr diwygiadau hyn yn addasiadau er mwyn rhwystro’r eithriadau yn rheoliad 2(1)(e), (f) ac (i) rhag peidio â bod yn gymwys os ywʼr plant y darperir gofal a llety ar eu cyfer yn cynnwys plentyn syʼn anabl. Yn achos gwasanaeth sy’n darparu llety a gofal i blant at un o’r dibenion a bennir yn rheoliad 2(1)(i) o Reoliadau 2017, effaith y diwygiad yw esemptio o’r gofyniad i gofrestru wasanaethau a ddarperir am hyd at 28 o ddiwrnodau yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer plant anabl pan fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi i Weinidogion Cymru.

Maeʼr diwygiad yn rheoliad 4(c) yn creu eithriad pellach iʼr diffiniad o wasanaeth cartref gofal o dan amgylchiadau pan fo gofal a llety yn cael eu darparu i blant. Bydd yr eithriad newydd yn esemptio person syʼn darparu gofal a llety yn ei gartref ei hunan i un plentyn (neu i grŵp o frodyr a chwiorydd) am 28 o ddiwrnodau neu lai bob blwyddyn fel nad ywʼn ofynnol iddo gofrestru.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2017 i bennu nad yw gofal nyrsio a ddarperir gan nyrs gofrestredig yn dod o fewn cwmpas gweithgaredd gwasanaeth cymorth cartref. Maeʼn creu eithriad ar wahân ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol pan fo hyn yn gysylltiedig ag angen am ofal nyrsio.

Mae rheoliad 8 yn ychwanegu gofyniad at reoliad 28 o Reoliadau 2017 ynghylch polisi a gweithdrefnau darparwr gwasanaeth ar gyfer cynilion plant.

Mae rheoliad 9 yn diwygio rheoliad 35 o Reoliadau 2017 i ohirio tan 1 Ebrill 2020 y gofyniad bod rhaid i reolwr gwasanaeth rheoleiddiedig fod wedi ei gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru yn achos rheolwyr asiantaethau a oedd wedi eu cofrestru fel asiantaethau nyrsys o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 cyn 2 Ebrill 2018 ond nad oeddent hefyd wedi eu cofrestru fel asiantaethau gofal cartref.

Mae rheoliadau 10 i 12 yn gwneud diwygiadau i Ran 13 o Reoliadau 2017 syʼn ymdrin âʼr amgylchiadau pan fo gofynion ychwanegol ynghylch safon mangreoedd yn gymwys i wasanaethau newydd. Maeʼr diwygiadau yn egluro sut y maeʼr gofynion ychwanegol yn gymwys yn achos estyniadau a gaiff eu hadeiladu ar fangreoedd presennol gwasanaeth llety.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn.
Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(b) ac (f) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, iʼw cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                             1 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(3) a 27 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016([1]), ac ar ôl ymgynghori âʼr personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol, ar ôl cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad ac ar ôl gosod copi oʼr datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 27(4) a (5), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Gosodwyd drafft oʼr Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(b) ac (f) ac feʼi cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn

1.(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2019.

Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

2. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017([2]) wedi eu diwygio yn unol âʼr rheoliadau a ganlyn.

Dehongli

3. Yn rheoliad 1(3), yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder y diffiniad a ganlyn—

ystyr “gwasanaethau rheoleiddiedig” (“regulated services”) yw gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau llety diogel neu wasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd;.

Eithrio rhag cwmpas gwasanaeth cartref gofal

4. Yn rheoliad 2—

(a)     yn lle is-baragraff (1)(e) rhodder—

(e) y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan foʼr gofal a ddarperir yn gyfystyr â gwarchod plant o fewn ystyr adran 19(2), neu ofal dydd o fewn ystyr adran 19(3), o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010([3]) ond nid ywʼr eithriad hwn yn gymwys—

                       (i)  os oes, mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, 28 neu ragor o gyfnodau o 24 awr y darperir mwy na 15 awr o warchod plant neu ofal dydd ynddynt mewn perthynas ag unrhyw un plentyn; neu

                      (ii)  os darperir y gofal yn gyfan gwbl neuʼn bennaf ar gyfer plant anabl;;

(b)     yn is-baragraff (1)(f), yn lle “ywʼr llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl” rhodder “darperir gofal yn gyfan gwbl neuʼn bennaf ar gyfer plant anabl”;

(c)     yn is-baragraff (1)(i)—

                            (i)    yn y geiriau cyflwyno hepgorer “oherwydd eu hyglwyfedd neu eu hangen”;

                          (ii)    yn is-baragraff (i) oʼr rhan oʼr cymal syʼn nodi pryd nad ywʼr eithriad yn gymwys, yn lle “pan foʼr llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl” rhodder “pan fo gofal yn cael ei ddarparu yn gyfan gwbl neuʼn bennaf ar gyfer plant anabl oni bai bod y darparwr gwasanaeth yn gyntaf wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am y trefniadau”;

(d)     ar ddiwedd is-baragraff (1)(i), yn lle “.” rhodder “;”;

(e)     ar ôl is-baragraff (1)(i) mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn—

(j)  y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, i un plentyn neu i grŵp o frodyr a chwiorydd gan berson yng nghartref y person hwnnw ei hunan a phan na fo gofal a llety yn cael eu darparu gan y person hwnnw am gyfanswm o fwy nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.;

(f)      ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Yn is-baragraff (1)(j) oʼr rheoliad hwn, mae “grŵp o frodyr a chwiorydd” yn cynnwys brodyr a chwiorydd a hanner brodyr a hanner chwiorydd.

Eithriadau rhag cwmpas gwasanaeth cymorth cartref

5. Yn rheoliad 3(1)—

(a)     yn is-baragraff (g), yn lle “.” rhodder “;”;

(b)     ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—

(h) y ddarpariaeth o ofal nyrsio gan nyrs gofrestredig;

(i)   y ddarpariaeth o ofal a chymorth gan Fwrdd Iechyd Lleol i ddiwallu anghenion syʼn gysylltiedig ag anghenion unigolion am ofal nyrsio. 

Mân ddiwygiad i reoliad 12

6. Yn rheoliad 12(1), yn y cromfachau ar ôl “Derbyniadau a chychwyn y gwasanaeth”, yn lle “Rhan 5” rhodder “Rhan 4”.

Polisi a gweithdrefnau ar gyfer cynilion plant

7. Yn rheoliad 28 (cefnogi unigolion i reoli eu harian), ar ôl paragraff (2) ychwaneger y paragraff a ganlyn—

“(2A) Pan fo gwasanaeth yn darparu llety ar gyfer plant, rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn nodi’r camau y bydd y darparwr gwasanaeth yn eu cymryd i sicrhau y caiff cynilion a wneir gan neu ar ran plant eu goruchwylio a’u monitro’n ddigonol, gan gynnwys trefniadau ar gyfer cadw cofnodion o gynilion (a gwariant o gynilion) a throsglwyddo’r cofnodion hyn pan ddaw lleoliad i ben.”

Mân ddiwygiad i reoliad 34

8. Yn y testun Saesneg yn rheoliad 34(5), hepgorer y gair “as” yn yr ail le y mae’n ymddangos.

Diwygiad i’r gofyniad o ran addasrwydd rheolwyr gwasanaethau cymorth cartref o dan amgylchiadau penodol

9. Yn rheoliad 35—

(a)     yn is-baragraff (2)(e), ar y dechrau, mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (10) oʼr rheoliad hwn,”;

(b)     ym mharagraff (9), yn lle’r geiriau o “adran 1” hyd at y diwedd rhodder “adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012([4])”;

(c)     ar ôl paragraff (9) mewnosoder—

(10) Tan 1 Ebrill 2020, nid yw’r gofyniad o dan baragraff (2)(e) i reolwr fod wedi ei gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru yn gymwys i reolwr sydd wedi ei benodi i reoli ymgymeriad—

(a)   y mae person wedi ei gofrestru, neu wedi gwneud cais i gofrestru, mewn cysylltiad ag ef, fel darparwr gwasanaeth cymorth cartref, a

(b)   yr oedd person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef i gynnal asiantaeth nyrsys o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000([5]) yn union cyn 2 Ebrill 2018 ond nad oedd hefyd wedi ei gofrestru i gynnal asiantaeth gofal cartref.

Diwygio rheoliad 49 – Cymhwyso Rhan 13

10. Yn rheoliad 49—

(a)     ym mharagraff (2), yn y testun syʼn disgrifio mangre Categori B, yn lle’r geiriau o “estyniad” i “syʼn” rhodder “adeilad neu adeiladau yr ychwanegir estyniad ato neu atynt ac maeʼr estyniad yn”;

(b)     ym mharagraff (3), ar ôl “54” mewnosoder “ond yn achos mangre Categori B, nid ywʼr gofynion ond yn gymwys iʼr rhan oʼr fangre syʼn cynnwys yr estyniad (neu yn achos rheoliad 53, i unrhyw rannau oʼr tiroedd allanol sydd wedi eu datblygu ar y cyd âʼr estyniad)”.

Diwygio rheoliad 52 – gofynion ychwanegol – lle cymunedol

11. Yn rheoliad 52—

(a)     ar y dechrau, yn lle “Rhaid” rhodder “(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid”;

(b)     ar y diwedd, ychwaneger y paragraff a ganlyn—

(2) Ar gyfer mangre Categori B, maeʼr rheoliad hwn yn gymwys fel bod rhaid iʼr gofyniad o ran lle gael ei fodloni mewn perthynas ag unrhyw ystafelloedd ychwanegol i unigolion.

Diwygio rheoliad 53 – gofynion ychwanegol – lle yn yr awyr agored

12. Yn rheoliad 53, ar ôl “allanol”, mewnosoder “(neu, yn achos mangre Categori B, unrhyw ran oʼr tiroedd allanol a ddatblygir ar y cyd ag adeiladuʼr estyniad)”. 

Mân ddiwygiad i reoliad 67

13. Yn rheoliad 67(4), yn lle “rheoliad 34(2)” rhodder “rheoliad 35(2)”.

Mân ddiwygiad i reoliad 73

14. Yn rheoliad 73(2), yn lle “unrhyw wasanaethau rheoleiddiedig eraill” rhodder “gwasanaeth cymorth cartref”.

Mân ddiwygiad i reoliad 85

15. Yn rheoliad 85(4), yn y rhestr o reoliadau, yn lle “33(1)” rhodder “33(2)”.

Diwygiadau i Atodlen 2

16. Ym mharagraff 5 o Atodlen 2—

(a)     yn is-baragraff (a), yn lle “, anaf, neu salwch” rhodder “neu anaf”;

(b)     yn is-baragraff (f), yn lle “wlserau” rhodder “niwed”.

Diwygiadau i Atodlen 3

17. Yn Atodlen 3—

(a)     ym mharagraff 13, ar ôl “staff” ychwaneger “a/neu wirfoddolwr”;

(b)     ym mharagraff 16, yn lle’r geiriau o “wlser pwyso categori 3 neu 4” iʼr diwedd rhodder “niwed pwyso categori 3 neu 4 neu niwed pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam”;

(c)     ym mharagraff 17, yn lle “, anaf neu salwch” rhodder “neu anaf”;

(d)     ym mharagraff 30, yn lle “Achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn” rhodder “Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn”;

(e)     ym mharagraff 33, yn lle “, anaf neu salwch” rhodder “neu anaf”;

(f)      ym mharagraff 34, yn lle’r geiriau o “wlser pwyso categori 3 neu 4” iʼr diwedd rhodder “niwed pwyso categori 3 neu 4 neu niwed pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam.”;

(g)     ym mhob un o baragraffau 42, 44 a 46, yn lle “Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn” rhodder “Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn”.

 

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad



([1])           2016 dccc 2.

([2])            O.S. 2017/1264 (Cy. 295).

([3])           2010 mccc 1.

([4])           2012 p. 9.

([5])           2000 p. 14.